Rhwydweithiau Cynghori Rhanbarthol
Yn 2019, arweiniodd Llywodraeth Cymru ar sefydlu chwe Rhwydwaith Cynghori Rhanbarthol i sicrhau bod gan bobl ledled Cymru fynediad at wybodaeth a chyngor ar les cymdeithasol o ansawdd uchel gan wasanaethau cydgysylltiedig a chyson. Mae'r Rhwydweithiau Cynghori Rhanbarthol yn dwyn ynghyd darparwyr sy'n cynnig gwybodaeth a chyngor lleol, cynllunwyr a chomisiynwyr gwasanaethau lleol, cyllidwyr a rhanddeiliaid eraill i hwyluso gweithio ar y cyd, rhannu arferion da, llunio blaenoriaethau rhanbarthol a gwneud y mwyaf o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y sector.
Mae gan bob Rhwydwaith gadeirydd a grŵp llywio annibynnol ac aelodaeth o randdeiliaid lleol a rhanbarthol. Ers mis Ebrill 2025, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyllid drwy'r Gronfa Gynghori Sengl i ganiatáu cymorth gweinyddol ar gyfer gwaith cynllunio'r Rhwydweithiau.
Rydym yn gofyn am eich adborth ar y Rhwydweithiau Cynghori Rhanbarthol i'n helpu i ddeall beth sy'n gweithio'n dda a beth y gellir ei wella, ac ym mha feysydd y gellir gwneud gwelliannau. Bydd eich barn yn helpu i lywio datblygiad a blaenoriaethau yn y dyfodol. Mae'r holl ymatebion yn ddienw a byddant yn cael eu trin yn gyfrinachol.
Dilynwch linc i’n arolwg byr.