Mae enwebiadau Gwobrau Elusennau Cymru ar agor!
Enwebwch eich hoff fudiad gwirfoddol, gwirfoddolwr neu unigolyn eithriadol ar gyfer Gwobrau Elusennau Cymru eleni, sydd â’r categori newydd sbon, ‘cyflawniad eithriadol’!
Mae Gwobrau Elusennau Cymru, a drefnir gan CGGC, yn cydnabod ac yn amlygu cyfraniad ffantastig elusennau, grwpiau cymunedol, cwmnïau nid-er-elw a gwirfoddolwyr o bob cwr o Gymru. Maen nhw’n dathlu ac yn hyrwyddo’r gwahaniaeth positif y gall y sector gwirfoddol ei wneud i fywydau pobl. Eleni, mae enwebiadau yn cael eu derbyn ar gyfer categori newydd, cyflawniad eithriadol, i gydnabod effaith barhaol ar y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Mae’r enwebiadau ar gyfer y gwobrau ar agor nawr a byddant yn cau ar 30 Mehefin 2026. Bydd y seremoni yn cael ei chynnal ar 15 Hydref 2026 yng ngwesty’r Hilton, Caerdydd, ac rydyn ni eisoes yn disgwyl noson gyffrous arall o ddathlu!
MEDDWL AM GYMRYD RHAN?
Waeth beth yw maint eich hoff fudiad gwirfoddol neu beth mae’n canolbwyntio arno, mae yna gategori i ddathlu ei gyflawniadau. Mae gennym ni hefyd gategorïau i ddathlu gwirfoddolwyr a gwobr cyflawniad eithriadol newydd sbon i unigolion. Enwebwch nawr a rhoi cyfle i’ch mudiad neu unigolyn gael ychydig o gydnabyddiaeth haeddiannol a noson i’w chofio!
Gwerthfawrogiad – waeth a fydd y sawl y byddwch chi’n ei enwebu yn enillydd neu’n deilyngwr, bydd cael ei enwebu am wobr yn dangos i’r mudiad neu unigolyn bod eu gwaith yn cael eu gwerthfawrogi a’i fod yn gwneud gwahaniaeth enfawr
Dathliad – cymerwch yr amser i ddathlu llwyddiant tîm (neu wirfoddolwr arbennig) diwyd a bydd cyfle i’r holl deilyngwyr ddod i’n seremoni wobrwyo fawreddog
Cydnabyddiaeth – gall bod yn deilyngwr yn y gwobrau godi proffil mudiad heb os, o gael sylw yn y cyfryngau i arddangos ansawdd ei waith i gyllidwyr a phenderfynwyr
CATEGORÏAU
Isod mae’r categorïau ar gyfer Gwobrau Elusennau Cymru 2026 – gan gynnwys categori newydd sbon, Gwobr Cyflawniad Eithriadol Graham Benfield.
Gallwch wneud un enwebiad ym mhob categori:
Gwirfoddolwr y flwyddyn (26 a hŷn)
Gwirfoddolwr ifanc y flwyddyn (25 oed ac iau)
Codwr arian y flwyddyn
Hyrwyddwr amrywiaeth
Defnydd o’r Gymraeg
Mudiad bach mwyaf dylanwadol
Iechyd a lles
Gwobr cyflawniad eithriadol Graham Benfield
Mudiad y flwyddyn
GWOBR CYFLAWNIAD EITHRIADOL GRAHAM BENFIELD
Mae’r anrhydedd arbennig hon yn cydnabod unigolion sydd wedi cael effaith eithriadol a pharhaol ar y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Roedd Graham Benfield yn llais hynod ddylanwadol dros bobl a chymunedau yng Nghymru, a chafodd effaith ddofn ar y sector gwirfoddol, yn genedlaethol a thu hwnt. Fel Prif Weithredwr CGGC, treuliodd 25 o flynyddoedd yn gweddnewid y dirwedd i fudiadau gwirfoddol, gan hyrwyddo cydweithio, cryfhau strwythurau cymorth a helpu’r sector i dyfu o ran hyder ac effaith.
Mae’r wobr hon yn dathlu’r rheini y mae eu cyfraniad yn mynd uwchlaw un prosiect neu foment. Mae’n cydnabod unigolion y mae eu hymroddiad, brwdfrydedd ac arweinyddiaeth wedi gwneud gwahaniaeth ystyrlon a pharhaol i gymunedau ledled Cymru. Mae’r wobr yn adlewyrchu’r gwerthoedd y gwnaeth Graham eu hymgorffori drwy gydol ei oes: anhunanoldeb, gonestrwydd a chred ddiysgog mewn pŵer pobl i greu newid positif.
Trwy sefydlu’r wobr hon, rydym yn gobeithio creu etifeddiaeth barhaol yn enw Graham, gan amlygu’r rheini sydd, fel ef, wedi ymroi eu hunain i wella bywydau a chryfhau’r sector gwirfoddol am yr hirdymor.
YR AMSERLEN AR GYFER 2026
Mae’r gwobrau ar agor, edrychwch ar amserlen 2026 isod:
15 Mai 2026 – Enwebiadau ar agor
30 Mehefin 2026 – Dyddiad cau derbyn enwebiadau
15 Hydref 2026 – Seremoni wobrwyo – Gwesty’r Hilton, Caerdydd
GWNEUD ENWEBIAD
Am ragor o wybodaeth am Wobrau Elusennau Cymru, gan gynnwys y disgrifiadau o’r categorïau, y rheolau a sut i wneud enwebiad, ewch i wefan Gwobrau Elusennau Cymru.
ENILLWYR Y LLYNEDD
Ymhlith enillwyr Gwobrau Elusennau Cymru 2025 oedd:
Francesco Lanzi – Gwirfoddolwr ifanc y flwyddyn (gwirfoddolwyr 25 oed neu iau)
Mae Francesco Lanzi yn gwirfoddoli i liaws o fudiadau, gan gynnwys Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed, St John Ambulance a Cymru Sport. Mae Francesco’n fwy adnabyddus fel prif wirfoddolwyr gyda Thîm-A Undeb Aberystwyth, yn helpu myfyrwyr newydd i gynefino â bywyd prifysgol. Mae hefyd yn gynrychiolydd academaidd ac yn gadeirydd democratiaeth myfyrwyr, lle y mae’n codi lleisiau myfyrwyr heb gynrychiolaeth ddigonol.
KIRAN Cymru – Hyrwyddwr amrywiaeth
Mae KIRAN Cymru yn fudiad cymunedol llawr gwlad bychan ond dylanwadol yng Nghymru sy’n ymladd hiliaeth drwy brosiectau amrywiol, gan gynnwys ‘Cerdda yn fy Esgidiau’ a ‘South Asia Cymru Heritage’ (Treftadaeth De Asia Cymru), ac mae llawer o’r rhain wedi’u mabwysiadu gan sefydliadau mawr yng Nghymru. Mae mwy nag 1,200 o bobl wedi cymryd rhan yng ngweithdai gwrth-hiliaeth y mudiad, gan leihau tensiynau ar hyd a lled Cymru.
ScoutsCymru – Mudiad y flwyddyn
Enwebwyd ScoutsCymru am ei arweinyddiaeth fodern a’i lywodraethiant arloesol. Mae hanner rolau ymddiriedolwyr ScoutsCymru wedi’u neilltuo i bobl ifanc rhwng 18-24 oed sy’n gweithio fel cydraddolion i uwch-arweinwyr. Mae’r mudiad yn cefnogi 14,000+ o bobl ifanc gyda chymorth ei 4,600+ o wirfoddolwyr. Arweiniodd ymchwil mwyaf y DU o dan arweiniad pobl ifanc, gan gynnwys mwy na 500 o bobl ifanc, a gwnaeth hefyd ymgyrchu’n llwyddiannus am newidiadau i gynigion y Bil Ardoll Ymwelwyr er mwyn diogelu profiadau fforddiadwy i bobl ifanc o dan 18 oed.