Pecyn Cymorth Newydd i Gefnogi Hystingau Cymunedol

*Please scroll down for English*

Annwyl gydweithwyr, 

Unwaith eto, diolch i chi am gydweithio â ni yr haf diwethaf a chynnal gweithdai lleol i feithrin Cymunedau Cymreig Ffyniannus, maniffesto a luniwyd gan gymunedau, i gymunedau. 

Yn dilyn lansiad y maniffesto ym mis Tachwedd, buom yn canolbwyntio ar ddatblygu ein Pecyn Cymorth Sut i Drefnu Hystingau, a luniwyd i helpu grwpiau cymunedol i gynllunio a chynnal digwyddiadau hystingau sydd wedi’u trefnu’n dda. Mae’n cynnwys canllaw ymarferol, templedi, ac awgrymiadau sy’n cwmpasu cynllunio, hyrwyddo, hygyrchedd, a darparu digwyddiadau.  

Rydym yn gobeithio y bydd yr adnodd hwn yn ddefnyddiol i sefydliadau a chymunedau yr ydych yn gweithio gyda nhw, yn enwedig wrth i ni agosáu at y cyfnod etholiad sydd i ddod. Rhannwch y pecyn cymorth yn eang o fewn eich rhwydweithiau, gan gysylltu’n ôl i’n gwefan neu Padlet lle bynnag y bo’n bosibl. Rydym hefyd yn hapus iawn os ydych eisiau defnyddio elfennau o’r adnoddau hyn yn lleol. 

Byddwn ni, fel yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, hefyd yn trefnu digwyddiad hystingau cenedlaethol ar-lein, gan ganolbwyntio ar bwysigrwydd gweithredu cymunedol a’r gofynion polisi yn y maniffesto. Mae hyn wedi'i drefnu i ddigwydd yn gynnar gyda'r nos ddydd Mawrth 14 Ebrill ar-lein a byddwn yn rhannu rhagor o fanylion maes o law. 

Os oes gennych unrhyw adborth neu os hoffech drafod unrhyw hystingau sydd wedi’u cynllunio neu gymorth pellach ar gyfer ymgysylltiad democrataidd dan arweiniad y gymuned, rwy’n hapus i drefnu cyfarfod. 

Cofion gorau, Eleri

Previous
Previous

New Toolkit to Support Community Hustings

Next
Next

Llais Fforwm Cyhoeddus - Iechyd Menywod