Mae Gwobrau Elusennau Cymru 2025 bellach ar agor ar gyfer enwebiadau

Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn ôl! Mae’r gwobrau, a drefnir gan CGGC, yn cydnabod a dathlu’r cyfraniad gwych y mae elusennau, grwpiau cymunedol, cwmnïau nid-er-elw a gwirfoddolwyr yn ei wneud i Gymru drwy amlygu a hyrwyddo’r gwahaniaeth positif y gallwn ni ei wneud i fywydau ein gilydd.

Cymerwch ran yng Ngwobrau Elusennau Cymru i roi sylw i’ch hoff fudiad gwirfoddol neu wirfoddolwr a rhoi’r cyfle iddynt gael ychydig o gydnabyddiaeth haeddiannol a noson i’w chofio! Hyd yn oed os na fydd yn cyrraedd y rownd derfynol, mae cael eu henwebu am wobr yn dangos i fudiad neu unigolyn fod eu gwaith yn cael ei werthfawrogi ac yn gwneud gwahaniaeth enfawr.

Y CATEGORÏAU

Mae wyth categori yng Ngwobrau Elusennau Cymru eleni:

· Gwirfoddolwr y Flwyddyn (26 oed a hŷn)

· Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn (25 oed ac iau)

· Codwr arian y flwyddyn

· Hyrwyddwr amrywiaeth

· Defnydd o’r Gymraeg

· Mudiad bach mwyaf dylanwadol

· Iechyd a lles

· Mudiad y Flwyddyn

CYMRYD RHAN Mae enwebu rhywun yn hawdd, ewch i wefan Gwobrau Elusennau Cymru, darllenwch y rheolau a llenwi’r ffurflen ar-lein.

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 30 Mehefin 2025. I gael rhagor o wybodaeth ac i enwebu, ewch i www.gwobrauelusennau.cymru. Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn bosibl diolch i’n prif noddwr Y Brifysgol Agored Cymru a noddwyr y categorïau eraill.

https://welshcharityawards.cymru/cy/

Previous
Previous

The Welsh Charity Awards 2025 are now open for nominations

Next
Next

Replacement Local Development Plan (2021 – 2036) Consultation on Housing Growth in Barry