Mae Gwirfoddoli Cymru yn cysylltu gwirfoddolwyr a mudiadau yn hawdd

Mae gwefan newydd Gwirfoddoli Cymru yn ffordd syml, effeithiol, rhad ac am ddim i fudiadau recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr.

‍Wedi’i rheoli gan Cefnogi Trydydd Sector Cymru, mae Gwirfoddoli Cymru yn cysylltu gwirfoddolwyr gyda’r mudiadau gwirfoddol sydd eu hangen, ac allai ddim bod yn haws ei defnyddio.‍ ‍

GWNEUD GWIRFODDOLI’N HAWDD‍ ‍

Mae’n rhad ac am ddim i’w ddefnyddio, ac mae dros mil o fudiadau eisoes wedi manteisio arni er mwyn dechrau hysbysebu eu cyfleoedd gwirfoddoli i’r cyhoedd.‍ ‍

Mae gan Gymru hanes cyfoethog o wirfoddoli, yn ei holl ffurfiau, ac mae hi bellach yn haws nag erioed i bobl helpu yn eu cymuned leol. Mae mudiadau’n hysbysebu pob math o gyfleoedd gwirfoddoli ledled y wlad, o weithio mewn siopau elusen, gwasanaethau cyfeillio, helpu i drefnu digwyddiadau a rasys elusennol, a mwy.‍ ‍

Os ydych chi’n fudiad sy’n chwilio am wirfoddolwyr newydd, neu’n rhywun sy’n dymuno rhoi yn ôl i’w cymuned, gall Gwirfoddoli Cymru eich helpu i ddarganfod yr hyn sydd ei angen.‍ ‍

Gwirfoddolwyr yw asgwrn cefn y sector gwirfoddol, ac ar adeg pan mae cymaint o bobl yn brin o amser ac arian, nod Gwirfoddoli Cymru yw gwneud y broses mor hawdd a syml â phosibl, fel bod modd i chi ganfod a rheoli eich gwirfoddolwyr mor ddi-ffwdan â phosibl. ‍ ‍

RHEOLI GWIRFODDOLWYR‍ ‍

Mae Gwirfoddoli Cymru yn caniatáu i chi ddangos yn uniongyrchol beth all gwirfoddoli i’ch mudiad ei gynnig i bobl, ac mae’n ffordd syml i wirfoddolwyr gofrestru a chofnodi eu gweithgarwch gwirfoddol.‍ ‍

Gall defnyddio amser gwirfoddolwyr fel arian cyfatebol fod yn rhan bwysig o wneud cais i arianwyr, ac mae Gwirfoddoli Cymru yn caniatáu i chi gofnodi’r oriau hynny yn gyflym ac yn hawdd. Gall hefyd helpu i ddatblygu sgiliau pobl, ac mae bod yn llwyfan ar-lein yn golygu ei fod yn fwy hygyrch i bobl ble bynnag maen nhw, waeth beth yw eu hanghenion.‍ ‍

Mae’r wefan yn gweithio’n rhwydd ar ffonau symudol, llechi a chyfrifiaduron, ac mae’n gallu dweud wrth wirfoddolwyr beth sydd ar gael yn lleol lle bynnag maen nhw ar y pryd. Mae hyn yn golygu y gallan nhw ddarganfod beth sy’n digwydd a rheoli a gweld cyfleoedd hyd yn oed pan maen nhw oddi cartref.‍ ‍

Mae Gwirfoddoli Cymru yn rhan o TSSW, mae hyn yn golygu y gallwch gysylltu eich Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol (CGS) neu Ganolfan Gwirfoddoli am gymorth ychwanegol - GVS (Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg), Ffôn: 01446 741706, E-bost: volunteering@gvs.wales Gwefan: www.gvs.wales

‍ ‍

Previous
Previous

Volunteering Wales connects volunteers and organisations the easy way

Next
Next

GVS welcomes newly approved member organisations