Ffordd syml i’ch busnes wneud ei ran

Mae Rhoi trwy’r Gyflogres yn ffordd hawdd i fusnesau o bob math yng Nghymru gefnogi achosion da drwy ganiatáu i’w staff wneud rhoddion cyn treth.

Chwefror yw *Mis Rhoi trwy'r Gyflogres, cyfle go iawn i gyflogwyr yng Nghymru hybu eu heffaith gymdeithasol wrth helpu cyflogeion i sicrhau bod eu rhoddion elusennol yn mynd yn bellach.

Mae Rhoi trwy’r Gyflogres yn syml i’w wneud, yn syml i’w gynnal a, gyda chostau nesaf at ddim, os o gwbl, yn ffordd fforddiadwy o wneud gwahaniaeth fel busnes.

Gwyliwch y fideo: Rhoi trwy’r Gyflogres yng Nghymru.

NID I FUSNESAU MAWR NEU ELUSENNAU MAWR YN UNIG

A oeddech chi’n gwybod nad i fusnesau mawr yn unig yw ef? Ac nid i gefnogi’r elusennau mawr adnabyddus yn unig? Gall unrhyw gyflogwr o unrhyw faint ddechrau cynllun, a gall cyflogeion benderfynu’n unigol pwy fyddan nhw’n rhoi iddo o’r miloedd o achosion lleol a chenedlaethol ledled Cymru (a thu hwnt).

Darllenwch y canllaw i ganfod mwy: Harneisio effaith gymdeithasol Rhoi trwy’r Gyflogres

OND BETH YN UNION YW RHOI TRWY’R GYFLOGRES?

Cynllun a gefnogir gan y llywodraeth yw Rhoi trwy’r Gyflogres sy’n caniatáu i gyflogeion gefnogi eu hoff elusennau yn gyfnewid am ryddhad treth.

Yr hyn sy’n gwneud y cynllun mor arbennig yw ei fod yn fuddiol i bawb dan sylw. Mae’n gwneud rhoi yn rhatach i drethdalwyr, gall busnesau ei ddefnyddio i wella eu heffaith gymdeithasol a gall elusennau gael incwm cynaliadwy i gyllido’r gwasanaethau hanfodol y mae cymunedau yn dibynnu arnynt.

GWELLWCH EICH EFFAITH GYMDEITHASOL

Mae Rhoi trwy’r Gyflogres yn cynorthwyo eich cyflogeion i roi i’r achosion sy’n agos at eu calonnau. Dyma beth ddywedodd un cyflogwr:

'Yn Dŵr Cymru Welsh Water, rydyn ni’n falch o fod yn gwneud rhoi’n ôl yn syml ac yn ystyrlon drwy ein cynllun Rhoi trwy’r Gyflogres. Mae’r fenter hon yn grymuso cydweithwyr i gefnogi achosion sydd o bwys iddyn nhw mewn ffordd gyfleus, dreth-effeithlon. Mae’n fwy na rhaglen – mae’n adlewyrchu ein gwerthoedd cyffredin a’n hymrwymiad parhaus i’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.'   

Dŵr Cymru Welsh Water

Nid yw’n ymwneud â dim ond rhoi unigol chwaith, darllenwch y canllaw i ganfod sut gall eich busnes gynyddu ei effaith gymdeithasol drwy Roi trwy’r Gyflogres a hybu diwylliant cwmni positif.

MIS RHOI TRWY’R GYFLOGRES

Chwefror yw Mis Rhoi trwy’r Gyflogres, ewch ati i gymryd rhan fel busnes drwy:

·       Ddechrau Cynllun Rhoi trwy’r Gyflogres

·       Cynnal ymgyrch Rhoi trwy’r Gyflogres gyda’ch cyflogeion

·       Dangos effaith gymdeithasol eich busnes drwy gyflawni marc ansawdd Rhoi trwy’r Gyflogres

Canfyddwch fwy am sut gall eich busnes ddechrau ar ei daith Rhoi trwy’r Gyflogres.

 

Previous
Previous

Cardiff Chiefs RFC Need You!

Next
Next

A simple way for your business to do its bit