Popeth sydd angen i ddechreuwyr newydd ei wybod am y sector gwirfoddol

Rhaglen gynefino yw Sylfeini ar gyfer y Trydydd Sector (F4S3) i bobl sydd newydd ddechrau gweithio yn y sector gwirfoddol; newydd-ddyfodiaid, graddedigion coleg diweddar, y rheini sydd wedi newid gyrfa neu wedi gwirfoddoli am 18 mis neu lai. 

Bydd cwrs peilot am ddim yn rhoi dealltwriaeth lawn i wirfoddolwyr a staff newydd o sut mae’r sector gwirfoddol yn gweithio a bydd yn cynnwys: 

·      Deall y sector

·      Eiriolaeth

·      Gweithrediadau

·      Sgiliau sector gwirfoddol

CYNNWYS Y RHAGLEN 

Mae’r rhaglen yn cynnwys pedwar modiwl, a phob un o’r rhain yn cynnwys dau weithdy ystafell ddosbarth, dwy weminar wedi’u recordio a dwy weminar fyw. Mae wedi’i dylunio i annog dysgwyr i gynnwys yr hyn y byddant yn ei ddysgu yn y gweithdai yn eu gwaith bob dydd drwy enghreifftiau ymarferol, astudiaethau achos, ymchwil a chyflwyniadau. Wrth i ddysgwyr gwblhau pob lefel o’r rhaglen, byddant yn ennill bathodyn digidol. 

Mae’r cwrs yn cynnwys pedwar gweithdy undydd mewn ystafell ddosbarth, gyda phedair gweminar awr o hyd wedi’u recordio a phedair gweminar fyw awr o hyd i ddilyn. Bydd hefyd angen cwblhau asesiadau. 

Modiwl 1  

·      Gweithdy 1: Tirwedd y sector gwirfoddol

Dydd Iau 20 Ionawr 2022 – Caerdydd | 9am tan 4pm

·      Gweminar 1: Fy mudiad o fewn y sector ehangach

Dydd Mawrth 25 Ionawr 2022 – Ar-lein | 1 awr

 

Modiwl 2  

·      Gweithdy 2: Polisi cyhoeddus ac eiriolaeth

Dydd Iau 27 Ionawr 2022 – Caerdydd | 9am tan 4pm

·      Gweminar 2: Gofyniad eirioli mawr fy mudiad

Dydd Mawrth 1 Chwefror 2022 – Ar-lein | 1 awr

 

Modiwl 3  

·      Gweithdy 3 – Sgiliau proffesiynol sydd eu hangen i weithio yn y sector gwirfoddol

Dydd Iau 3 Chwefror 2022 – Caerdydd | 9am tan 5pm

·      Gweminar 3: Fy mudiad a dulliau gweithredu

Dydd Mawrth 8 Chwefror 2022 – Ar-lein | 1 awr

 

Modiwl 4  

·      Gweithdy 4: Sgiliau personol sydd eu hangen i weithio yn y sector gwirfoddol

Dydd Iau 10 Chwefror 2022 – Caerdydd | 9.30am tan 5pm

·      Gweminar 4: Fy mudiad a datblygiad personol

Dydd Mawrth 15 Chwefror 2022 – Ar-lein | 1 awr

 

SUT I GYMRYD RHAN – ASTUDIAETH BEILOT  

Bydd y rhaglen hyfforddiant peilot yn cael ei chyflwyno yng Nghymru ar ddechrau 2022. I fynegi eich diddordeb yn y rhaglen, anfonwch e-bost at training@wcva.cymru. Dyddiad cau: Dydd Gwener 10 Rhagfyr 2021.  

Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael a byddant yn cael eu dyrannu ar ôl y dyddiad cau. Byddwn yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn gallu ymrwymo i gwblhau’r holl fodiwlau a’r asesiad. Bydd angen i chi gwblhau’r asesiadau cyn mynychu’r gweminarau byw. 

I gael rhagor o wybodaeth ar brosiect F43S ewch i wefan CGGC.

Previous
Previous

Climate Change - questions for the local Third Sector

Next
Next

Everything new starters need to know about the voluntary sector