Perthynas y sector gwirfoddol â'r llywodraeth – trydedd don Baromedr Cymru bellach ar agor

‍Mae etholiad y Senedd 2026 yn dod â newidiadau hanesyddol – Senedd estynedig, system etholiadol newydd a mwy o wynebau a phleidiau newydd nag yr ydym wedi'u gweld erioed. Mae'r berthynas rhwng mudiadau gwirfoddol a phob lefel o lywodraeth yn rhan bwysig o ddarparu gwasanaethau.‍ ‍

Mae Arsyllfa VCSE a CGGC yn lansio Ton 3 o Baromedr Cymru - yr arolwg dwyieithog, chwarterol newydd ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru - ac maent yn awyddus i gasglu eich barn.‍ ‍

Dwyn y llywodraeth i gyfrif‍ ‍

Mae'r don hon yn sefydlu llinell sylfaen i’w holrhain dros amser i nodi a yw mudiadau gwirfoddol o'r farn bod gwahanol lefelau llywodraeth yn ymddwyn mewn ffyrdd sy'n adlewyrchu egwyddorion y Cyfamod Cymdeithas Sifil newydd.‍ ‍

Yng Nghymru, mae ei egwyddorion o gydnabyddiaeth a gwerth, partneriaeth a chydweithio, cyfranogiad a chynhwysiant, a thryloywder a data yn ategu'r Cynllun Trydydd Sector hirsefydlog.‍ ‍

Cymryd rhan‍ ‍

Bydd Ton 3 Baromedr Cymru yn fyw rhwng 29 Ebrill a 20 Mai ac mae'n cynnig cyfle i fudiadau gwirfoddol droi profiad bywyd yn dystiolaeth ar y cyd. ‍ ‍

✅ Os byddwch yn cymryd rhan, byddwch yn cael:‍ ‍

·       Adroddiad Mewnwelediad byr i wirio eich profiad yn erbyn y sector ehangach ‍ ‍

·       Mynediad at adroddiad llawn gyda chanfyddiadau ‍ ‍

·       Gwahoddiad i weminar am ddim ar ganlyniadau a goblygiadau ymarferol ‍ ‍

📝 Cymerwch ran yma: Ton 3 – dim ond 15 munud bydd yn ei gymryd.‍ ‍

📊 Bydd pob cyfranogwr yn derbyn Adroddiad Mewnwelediad Unigol. Edrychwch ar yr adroddiad enghreifftiol!‍ ‍

Yr hyn y bydd ton 3 yn ei ystyried‍ ‍

Bydd Ton 3 yn archwilio:‍ ‍

•      Beth yw eich profiad gyda gwahanol lefelau llywodraeth?‍ ‍

•      I ba raddau mae eich perthnasoedd yn adlewyrchu egwyddorion y Cyfamod Cymdeithas Sifil yn ymarferol?‍ ‍

•      Beth yw eich blaenoriaethau, eich disgwyliadau a'ch pryderon ar gyfer y Senedd newydd?‍ ‍

Trwy rannu eich profiad, byddwch yn helpu i greu sylfaen dystiolaeth gadarn sy'n gallu olrhain newid dros amser a llywio polisi, cyllid a chymorth y sector.

‍ ‍

Previous
Previous

Join the R4W Race Volunteer Team

Next
Next

Voluntary sector relationships with government – Baromedr Cymru third wave now open