Lansio’r ymgynghoriad ar Gynllun Drafft Hawliau Pobl Anabl

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar ei Chynllun Drafft Hawliau Pobl Anabl, sy'n nodi uchelgais gadarnhaol ar gyfer hyrwyddo hawliau a chyfleoedd pob person anabl ledled Cymru dros y degawd nesaf.

Mae'r cynllun yn seiliedig ar waith y Tasglu Hawliau Pobl Anabl, a wnaeth ddwyn ynghyd pobl â phrofiad bywyd ac arbenigedd. Mae'n mynd i'r afael â'r heriau gwirioneddol sy'n wynebu pobl anabl yn eu bywydau bob dydd ac yn amlinellu camau gweithredu uniongyrchol a chanlyniadau hirdymor i greu newid parhaol yn y ffordd y mae cymdeithas yn mynd i'r afael â rhwystrau i gynhwysiant.

Mae'r ymgynghoriad 12 wythnos yn croesawu mewnbwn gan unigolion, grwpiau cymunedol, busnesau a sefydliadau, gyda phwyslais arbennig ar glywed yn uniongyrchol gan bobl anabl am eu blaenoriaethau.

Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 7 Awst 2025.

Cymerwch ychydig o amser i ddarllen y cynllun a rhannu eich barn.

Gallwch ddod o hyd i'r ymgynghoriad a manylion ar sut i ymateb yma: https://www.llyw.cymru/cynllun-hawliau-pobl-anabl-drafft

Previous
Previous

Save the date!

Next
Next

Launch of consultation on Draft Disabled People’s Rights plan