Rhwydwaith Grŵp Rhwydwaith Cymorth a Gwybodaeth i Ofalwyr (CSING)

Mae Grŵp Rhwydwaith Cymorth a Gwybodaeth i Ofalwyr (CSING) yn grŵp aml-asiantaeth a arferai gyfarfod i rannu gwybodaeth a thynnu sylw at faterion ynghylch gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i ofalwyr. Mae'r rhwydwaith yn canolbwyntio ar Gaerdydd a Bro Morganwg.

Mae GVS yn dymuno adfywio ac adnewyddu'r rhwydwaith hwn a chawsom y cyfarfod cyntaf ym mis Hydref 2025.

Cynhelir y cyfarfod nesaf yn bersonol ddydd Iau'r 5ed o Fawrth am hanner dydd – 2yp. Lleoliad: Hwb Trelái a Chaerau, Heol y Bont-faen Gorllewin, Caerdydd, CF5 5BQ.

Archebwch le yn y cyfarfod gan ddefnyddio'r ddolen hon: Tocynnau Cyfarfod Rhwydwaith CSING, Iau, Mawrth 5, 2026 am 12:00 PM | Eventbrite

Bydd y cyfarfod hwn yn gyfle i gwrdd â sefydliadau eraill sy'n darparu gwasanaethau i gefnogi gofalwyr a phenderfynu ar ddyfodol CSING. 

Os nad ydych chi'n aelod ac hoffech chi wybod mwy, cysylltwch ag ymholiadau@gvs.wales

Blaenorol
Blaenorol

Ymgynghoriad GVS - Ymgysylltu yn y Dyfodol Rhwng y Sector Gwirfoddol a Chyngor Bro Morganwg

Nesaf
Nesaf

Helpwch ni i wella gofal HRT yng Nghymru!